brigyn.com
 
Brigyn Lyrics:

Os na wnei di adael nawr
Bohemia bach
Llipryn
Diwedd y dydd, diwedd y byd
Gyrru drwy y glaw
Angharad
Disgyn wrth dy draed
Lleisiau yn y gwynt

Addewid gwag
Diwrnod marchnad
Popeth yn ei le
Y Sgwâr
Serth
Darn o'r un brethyn
Byd brau
Hwyl fawr, ffarwel
Bysedd drwy dy wallt

Buta efo'r Maffia
Jericho
Tŷ Bach Twt

Fyswn i... fysa ti?
Subbuteo
Allwedd
Kings, Queens, Jacks
Isel
Wedi'r cyfan
Tu ôl i'r wên
Pioden
Seren
Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam

Haleliwia
Dilyn yr haul

Yr Arth a'r Lloer
› Nadolig Ni

One Way Streets
Airmiles & Railroads
Stepping Stones

Home
I Need All The Friends I Can Get

Ara deg
Fflam
Deffro
Gwyn dy fyd
Tlws
Pentre sydyn
Ffilm
Weithiau
Gwallt y forwyn

Dôl y Plu
Rhywle mae 'na afon
Ana
Llwybrau
Malacara
Fan hyn (Aquí)
Ffenest

 
Nadolig Ni

Dw i'n gwbod ei fod o'n wirion, dw i'n gwbod ei fod o'n ffôl
ond 'swn i'n taeru i mi deimlo dy fod titha adra'n d'ol.
Dw i'n gwbod swn i'n chwerthin, o glwad y fath son
ond dwi'n siwr i mi dy deimlo, wrth 'yn ymyl 'rhyd y lôn.

Ac am eiliad fechan fechan daeth 'na deimlad drostai'n gry'
ac mi ddeallais inna'n sydyn, ma'r Nadolig oeddach chdi.

Y Nadolig oeddach chdi
Y Nadolig oeddach chdi
Dim dymuno am ddolig gwyn
Mond dymuno dy ga'l di nol efo ni'n fan hyn.

Dw i'n gwybod na fydd y fechan yn dy nabod fel nes i
Bydd, mi fydd hi'n gweld dy lunia ac yn clywed ambell si.
Fydd hi'n gweld 'y ngwyneb inna yn goleuo ambell awr
wrth i eira ein hatgofion ddisgyn yn blua 'rhyd y llawr.

A mi fyddai'n siwr o'th weld di, ddiwrnod dolig, yn dy ôl
wrth weld y fam yn gwenu'n dirion yn y ferch ar fy nghol.

Y Nadolig oeddach chdi
Y Nadolig oeddach chdi
Dim dymuno am ddolig gwyn
Mond dymuno dy ga'l di nol efo ni'n fan hyn.

Y Nadolig oeddach chdi
Y Nadolig oeddach chdi
Dim dymuno am ddolig gwyn
Mond dymuno dy ga'l di nol efo ni'n fan hyn
...ni'n dau fan hyn.



[Lyrics: Catrin Dafydd]

 

 
  [brigyn.com ~ website designed by: eurigroberts.com | rarebit © 2014]