› Os na wnei di adael nawr
› Bohemia bach
› Llipryn
› Diwedd y dydd, diwedd y byd
› Gyrru drwy y glaw
› Angharad
› Disgyn wrth dy draed
› Lleisiau yn y gwynt
› Addewid gwag
› Diwrnod marchnad
› Popeth yn ei le
› Y Sgwâr
› Serth
› Darn o'r un brethyn
› Byd brau
› Hwyl fawr, ffarwel
› Bysedd drwy dy wallt
› Buta efo'r Maffia
› Jericho
› Tŷ Bach Twt
› Fyswn i... fysa ti?
› Subbuteo
› Allwedd
› Kings, Queens, Jacks
› Isel
› Wedi'r cyfan
› Tu ôl i'r wên
› Pioden
› Seren
› Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam
› Haleliwia
› Dilyn yr haul
› Yr Arth a'r Lloer
› Nadolig Ni
› One Way Streets
› Airmiles & Railroads
› Stepping Stones
› Home
› I Need All The Friends I Can Get
› Ara deg
› Fflam
› Deffro
› Gwyn dy fyd
› Tlws
› Pentre sydyn
› Ffilm
› Weithiau
› Gwallt y forwyn
› Dôl y Plu
› Rhywle mae 'na afon
› Ana
› Llwybrau
› Malacara
› Fan hyn (Aquí)
› Ffenest
|
|
Welaist ti’r llanw ar doriad y wawr?
Welaist ti’r gwartheg yn gorwedd i lawr?
Welaist ti’r wylan i mewn yn y tir?
Welaist ti’r dilyw ar ddiwedd y dydd?
Glywaist ti’r gadair yn gwichian ei chŵyn?
Glywaist ti’r gnocell yn crio yn y llwyn?
Glywaist ti’r frân yn gweiddi ei rheg?
Glywaist ti’r terfysg yn symud yn nes?
Ond mi wn er pob gofid, daw eto’n glir
A daw’r heulwen i d’wynnu cyn bo hir
Ac mi wn er bod tonnau, a’r siwrnai’n faith
Y daw’r forwyn i dywys fy nhaith
Welaist ti’r dewin yn gwisgo ei gôt?
Welaist ti’r awyr yn llwyd gyda’r nos?
Welaist ti’r lleuad yn boddi yn y nen?
Welaist ti’r dail yn troi ar eu cefn?
Doedd neb yn disgwyl ’sa’r porth wedi cau
Doedd neb yn disgwyl i’r gaeaf nesáu
Doedd neb yn disgwyl ’sa hi’n bwrw fel hyn
Doedd neb yn disgwyl hen wragedd a ffyn
Ond mi wn er pob gofid, daw eto’n glir
A daw’r heulwen i d’wynnu cyn bo hir
Ac mi wn er bod tonnau, a’r siwrnai’n faith
Y daw’r forwyn i dywys fy nhaith. |