Brigyn3 ~ Mai 26, 2008

01. Fyswn i... fysa ti?
02. Subbuteo
03. Allwedd
04. Kings, Queens, Jacks
05. Isel
06. Gwreichion
07. Wedi'r cyfan
08. Tu ôl i'r wên
09. Pioden
10. Seren
11. Paid â mynd i'r nos heb ofyn pam

Dyma albym llawn ddiweddaraf Brigyn, sy'n cynnwys 11 o ganeuon gwerinol-newydd eu naws. Cychwynodd y daith o hybu'r albym gyda sesiwn fyw arbennig ar BBC 6Music ym mis Mai 2008, a dilynnodd llawer o berfformiadau cofiadwy dros weddill y flwyddyn mewn gwyliau yn cynnwys Sesiwn Fawr, a Gwyl y Dyn Gwyrdd. Mae'r albym yn cynnwys cyfraniadau gan nifer o gerddorion talentog (Siân James, John Lawrence, Alun 'Sbardun' Huws, Dan Amor a Steve Balsamo), ac yn ogystal, mae'r geiriau ar gyfer y ddwy gan olaf ar 'Brigyn3' wedi eu hysgrifennu gan feirdd. Mae'r gân sy'n cloi'r albym (Paid â mynd i'r nos...) yn drosiad gan y prifardd T. James Jones o'r gerdd enwog 'Do not go gentle into that good night' gan Dylan Thomas.

» cliciwch yma i lawrlwytho 'brigyn3'
» cliciwch yma i brynu CD 'brigyn3' o'r siop