 |
8. Ar Gyfer Heddiw'r Bore
9. Rhyfeddod Ar Foreddydd (Gareth Bonello & Brigyn)
18. Teg Wawriodd (Brigyn & Gareth Bonello) |
|
Yn ystod mis Ionawr 2009, bu Brigyn yn ran o wasanaeth Plygain yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa gyda chantorion gwerin cyfoes eraill, yn ogystal รข phlygeinwyr traddodiadol o Sir Drefaldwyn. Trefnwyd y prosiect gan y cerddor Rhys Mwyn - un o ffigyrau mwyaf dylanwadol a dadleuol y diwylliant canu Cymreig - sy'n wreiddiol o Lanfair Caereinion. "Mae gan y prosiect yma rhywbeth i'w wneud gyda fi'n edrych ar fy ngwreiddiau, heb os!" meddai Rhys. "Mi oeddwn i'n gwrando ar y Sex Pistols, pan oedd fy nghyfoedion i'n mynd i ganu plygain".
Cydweithiodd Brigyn efo Gareth Bonello (The Gentle Good) ar gyfer y prosiect, a rhyddhawyd y recordiadau o'r gwasanaeth ar yr albym yma yn ystod 2010. |
|