 |
01.
Addewid
Gwag
02. Diwrnod
marchnad
03. Popeth
yn ei le
04. Y Sgwar
05. Imãgõ
06. Serth
07. Darn
o'r un brethyn
08. Vortex
09. Byd brau
10. xetroV
11. Hwyl
fawr, ffarwel
12. Bysedd
drwy dy wallt
|
Llai na blwyddyn yn unig ar ôl rhyddhau'r
CD gyntaf, ymddangosodd ail albym Brigyn o dan
y teitl 'Brigyn 2'. Sefydlodd yr albym yma swn
unigryw Brigyn ymhellach, fel cyfuniad o elfennau
electronica, gwerin, a defnydd o samplau cerddorfaol.
Lawnsiwyd y CD yma yn ffurfiol tu mewn i goeden
ger Llanymddyfri, a dilynodd teithiau llwyddiannus
i San Fransisco ym mis Tachwedd 2005, ac i Iwerddon
yn Ebrill 2006. Ymysg y caneuon sy'n ymddangos
ar yr albym yma, mae 'Hwyl fawr, ffarwel' - sy'n
ddeuawd gyda Fflur Dafydd, a 'Y Sgwar' - sef teyrnged
i'r bosciwr o Ferthyr, Johnny Owen. |