|
01. Cyflwyniad
02. Os na wnei di adael nawr
03. Bohemia bach
04. Llipryn
05. Diwedd y dydd, diwedd y byd
06. Gyrru drwy y glaw
07. Sonar
08. Angharad
09. Abacus
10. Disgyn wrth dy draed
11. Lleisiau yn y gwynt |
|
Dyma'r CD a ddechreuodd y prosiect cerddorol newydd 'Brigyn' gan y brodyr Ynyr ac Eurig Roberts. Recordiwyd y traciau i gyd yn ystod Medi 2004, yn bennaf gyda'r cynhyrchydd Rob Reed, ac yn wreiddiol fel casgliad o demos arbrofol.
Ar ôl penderfynu fod y gwaith gorffenedig yn swnio'n dderbyniol, penderfynwyd rhyddhau'r traciau ar CD tua mis ar ôl i'r recordio gael ei gwblhau. Mae'r albym yn gymysgedd o gerddoriaeth 'ambient' offerynnol, i sampls electronig, i gerddoriaeth hollol acwstic.
Ymysg y traciau mwyaf cyfarwydd ar yr albym yma, mae 'Bohemia Bach', ac 'Os na wnei di adael nawr' - sy'n cynnwys sampl cofiadwy o delyn, curiadau synthetic, a llinynau indiaidd. |
|