brigyn.com
 
Diolchiadau Brigyn4
Yn gyntaf, diolch i'r rhai sydd wedi prynu copi o'r CD Brigyn 4. Mae o wedi bod yn brosiect hynod o gyffrous i'w gwblhau - yn ymdrech a hanner - ond yn brofiad hwylus dros ben. Mae o'n teimlo fel ein bod ni wedi rhedeg marathon ac yna gwneud ‘sprint finish’ ar y diwedd i gael popeth at ei gilydd mewn pryd i ryddhau yr albym i gyd-fynd efo dathlu penblwydd Brigyn yn 10 oed! Mae llawer o bobl wedi ein helpu ar hyd y ffordd i wireddu'r freuddwyd o greu albym arall, a dyma'r lle i ni gael rhoi'r diolch teilwng iddyn nhw, nid mewn unrhyw drefn yn benodol... Diolch i Mei am yr oriau o waith wrth y llyw tra’n recordio y rhan helaeth o'r darnau sydd i'w clywed ar yr albym. Diolch hefyd i chdi am ehangu ar y caneuon a chynnig llawer o syniadau a 'riffs' tra'n recordio, gan estyn bob math o offerynnau bach a diddorol o’r cwpwrdd yn y stiwdio - a’n cyflwyno i'r Cavaco sydd wedi ychwanegu sain arbennig i’r caneuon ‘Tlws’, ‘Deffro’ ac ‘Y Sŵn’. Diolch i chdi am weithio drwy'n dulliau anghonfensiynol o drosgwyddo WAVs i’n gilydd ac am fod mor barod i helpu ni siapio'r albym ‘ma at ei gilydd! Diolch i Georgia am fod mor awyddus i ychwanegu ei llais pur arbennig i Gwallt y forwyn, ac i Aled am fod wrth law i wneud y gwaith recordio. Diolch yn fawr iawn hefyd i Angharad am ddod a’r naws gwerinol i’r albym gyda’i ffidil, ac i Jon am ei ddrymio cynnil sydd wedi cyfoethogi sŵn yr albym, heb os! Diolch yn fawr i Osian am recordio ‘Cicio teiars’, ac i Sbrings a’r Hen Felinwyr am eu croeso yn y Llan bob tro. Mae hon i Dez 10% = 100% Legend, am byth. Unwaith eto, diolch i Rob am fod ar ben y siwrna i gymysgu'r holl elfennau at ei gilydd mor gywrain, ac am ei syniadau a'i farn ar y caneuon. Diolch i Gethin yn Hafod Mastering am ei waith hudol ar y mastro a chuddio'r caneuon, gan ddod a'r holl gynnyrch at ei gilydd yn saff a chyflwyno'r 'DDP Master' i ni. Diolch i gwmni Goriad am gomisiynu y gân ‘Gwyn dy Fyd’ yn wreiddiol ar gyfer rhaglen ‘Byd Enlli a Gwenno’ ar S4C, ac i Aled Davies o Gyngor Ysgolion Sul am gomisiynu y gân "Weithiau" gyda Mererid Hopwood. Dyma'r ail dro i ni weithio dros y wê efo Mererid... Mi gawn ni gyfarfod wyneb yn wyneb a cydweithio ar gân arall rhywbryd yn fuan da ni'n gobeithio! Diolch hefyd i S4C am ddewis ‘Fflam’ fel trac sain ar gyfer eu hysbysebion ‘Digwyddiadau'r Haf 2014’, a roddodd, yn ei dro, y sbardun a’r hyder i ni gychwyn yr holl waith recordio ar gyfer gweddill yr albym. Diolch i griw BBC Bangor am recordio y gân ‘Ffilm’ nol yn 2010 fel rhan o ‘Sesiwn Unnos’, ac i Rhodri Davies a Mei Mac am gael gwneud dehongliad ni ein hunain o’r gân ar gyfer Brigyn 4. Diolch enfawr i Ems am dreulio oriau o'i amser sbâr yn tyrchu i ddod o hyd i'r ‘multi-tracks’ o'r recordiad gwreiddiol hwnnw - ddwy flynedd ar ôl i ni recordio'r sesiwn. Hefyd, i gynhyrchydd BBC Radio Cymru, Gareth Iwan, am y caniatâd i gael defnyddio'r rhannau o’r recordiad ar gyfer yr albym newydd, ac am ei gyngor tra'n hyrwyddo y prosiect. A chyn cloi, fysa ni byth wedi gallu cyflawni'r prosiect heb gymorth a dylanwad gwych ein teuluoedd a'n ffrindau agosaf... felly, yn nhrefn yr wyddor, diolch i Afryl, Aled, Anne, Bethan (a’r bymp!), Casi, Deio, Gwenllian, Ifan, Huw (yn arbennig am brawfddarllen y clawr i ni), a Michael. Ac yn olaf, i Mam a Dad.  
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]