brigyn.com
 
Diolchiadau Brigyn2
Diolch enfawr i Rob, am adael ni a'n syniadau "bonkers" i fewn i'w stiwdio brysur unwaith eto! I Rhys (rhyswnllyd) James am ddefnydd o'i gartref a'i stiwdio ac am y sesh wedi'r recordio! Diolch hefyd i James a criw Bocswn am gael defnyddio'r stiwdio ar fyr-rybydd. I Bryn, Bob, Meinir, Dylan, Nia, Deian a pawb arall sy'n gysylltiedig a Gwynfryn Cymunedol. Diolch i staff a dj's Radio Cymru, Champion a gorsafoedd radio eraill ym mhrydain sydd wedi chwarae ein caneuon. I staff sy'n gweithio ar raglenni S4C am eu cefnogaeth. Llawer o ddiolch i Olwen a'r criw yn Llanfair ym Muallt, mae'r gefnogaeth dros y flwyddyn dwytha wedi bod yn anhygoel, ac fysa'r albym ma byth di gorffen heb dy input! Diolch am y gigs, llety, a llawer o hwyl. Hefyd i Liz am y lluniau a'r gefnogaeth dros y flwyddyn dwytha. I Deian am ein helpu gyda'r perfformiadau yn ystod y flwyddyn. I Fflur am gytuno i ganu ar y CD ac wrth wneud hynny - mae'r gân yn llawer gwell nag oedd hi! Diolch mawr i Nia a teulu Bryncrug - mae'r dylanwad dal yn 'immense', diolch am yr holl syniadau, yr help efo'r gigs, dy fynadd a diolch am sticio efo ni. Nawni gyflwyno'r CD ma i Hefin a pawb sy'n gysylltiedig â fo!! am ein mabwysiadu, helpu ni efo recordio, gigs a hyrwyddo ein CDs. Hefyd i Mam Dad Huw ac Eirian, a gweddill y teulu. Diolch i bawb sydd wedi trefnu gigs i brigyn, i bawb a gyfranodd i'r we-fan ac i bawb sy'n mynychu'r gigs a sy' wedi prynu ein CDs.  
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]