brigyn.com
 
Diolchiadau Brigyn
Yn bennaf mae tri person pwysig iawn wedi ein helpu ni i wireddu y project yma: Bob, am ein helpu i ddechrau a gorffen y CD ac am bob tamed o gyngor cerddorol a personnol along the way, i Bryn am ein ysbrydoli i neud y fath CD, am ei ddyfal barhad efo ni, ac am bob cefnogaeth a'i waith dros yr holl flynyddoedd! I Rob, am y croeso, y caneuon, ei fynadd, ac am wireddu ambell i syniad gwallgo. I rhan arall Epitaff, edrych ymlaen i greu llawer mwy o gerddoriaeth yn y dyfodol agos. Diolch mawr i Nia, sydd wedi bod yn ddylanwad immense arna ni, yn enwedig yn ystod recordio'r 'sesiwn'. Diolch am bob dim, yn enwedig dy fynadd a'c am sticio efo ni. Diolch yn enwedig am 'Dilyn yr haul'. Diolch i Cass am recordio'r sesiwn ar gymaint o fyr-rybydd. I Hefin (Dobson) Jones, dwi'n meddwl na chdi nath greu brigyn, yr holl gigs ac yr holl nosweithiau o remenisho am barry welsh a father ted! You're right dave. I Owain Gwilym, nid yn unig am yr enw, ond am y brwdfrydedd ynglyn a'n caneuon. I Meinir, Dylan, Nia, Deian! (tîm solid Gwynfryn!!) Hefyd i bawb ar ein label, bob band, bob artist. I DJs gorsafoedd radio led-led Cymru am chwarae ein caneuon. I Dan, am gael defnyddio ei gyfrifiadur i orffen y clawr. I Melinda am roid ni mewn cysylltiad gyda Rob, i Veronica am ein cyflwyno i'r CDs a'r DVDs nath ysbrydoli yr albym, i'n ffrindiau a'n teulu ac yn olaf, a pwysica': Diolch am gefnogaeth hanfodol Mam, Dad a Huw.  
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]