Yr
Herald Cymraeg:
'Nid
hogia bach o Lanrug yw rhain bellach'
Pan ddaeth CD cyntaf Brigyn allan ym 2004 fe
gamodd Ynyr ac Eurig Roberts allan o gysgod
gymharol naïf y grwp ysgol Epitaff a chreu
un o’r cyfanweithiau gorau ar CD yn yr
Iaith Gymraeg. Gyda caneuon cofiadwy fel “Bohemia
Bach” ac “Os na wnei di adael nawr”
fe grewyd cerddoriaeth Cymraeg gyda naws Gymreig
a fe sefydlwyd Brigyn fel grwp oedd rhaid eu
cymeryd o ddifrif. Cyfunwyd y delyn gyda’r
electonig a rhywsut roedd llais Ynyr yn gweddu
yn well o fewn ffiniau Brigyn na’r efelychiad
eilradd o’r Manic Street Preachers a ymgeisiwyd
gyda Epitaff.
Dangoswyd
aeddfedrwydd a pharodrwydd i arbrofi ymhellach
gyda synau electroneg ar ‘Brigyn 2’.
I mi roedd ‘Brigyn 2’ yn gam fawr
ymlaen, yn galetach ac o bosib, er yn llai amlwg,
yn CD gyda llawer mwy o hygrededd o ran y Byd
Pop go iawn (nid y ghetto Cymraeg). Yn sgil
hyn fe gafodd Brigyn lwyfan yng ngyl Y Dyn Gwyrdd,
ac yn wir y nhw agorodd y sioe ar ail flynedd
yr yl yng nghyffiniau Gelligandryll.
Wedyn
fe ryddhaodd Brigyn gasgliad o “re-mixes”
a sengl 7” gan wthio’r ffiniau ymhellach.
Yn wir mor bell oedd y ffiniau wedi eu hymestyn
erbyn hyn fod rhywun yn cael y teimlad fod clustiau
Cymru fach wedi colli’r trywydd yn llwyr.
Dydi Cymry fach ddim wedi arfer hefo CD o “re-mixes”
a dydi feinyl wel dio ddim yn air Cymraeg nacdi?
A
wedyn yr argraff gefais i wedyn fod pethau wedi
mynd yn ddistaw. Yn dilyn taith o theatrau Cymru
wedi ei drefnu gan y grwp (clodiadwy) fe ryddhawyd
y drydedd CD go iawn, ‘Brigyn 3’
i fawr ddim sylw? Fe eisteddodd y CD ar fy nesg
am rai misoedd, ynghanol dwsinau arall –
dwi angen gwrando ar hwn rhywbryd ond mae’r
ffôn yn canu, mae rhywun yn galw heibio,
does gennyf ddim i-Pod.........llu o esguseuon.....ddim
ddigon da....Euog Mr Mwyn..... sori Ynyr ac
Eurig......
Felly
dyna wefr wrth i mi gyrraedd Gwyl y Dyn Gwyrdd
Sadwrn diwethaf a gadael y car ym maes parcio’r
artistiaid a chwlio am y fynedfa a fy band garddwn
i gael mynd mewn a chlywed “Os na wnei
di adael nawr” yn chwythu fel cwmwl drwy’r
awyr o bellteroedd mewnol yr yl. Ar ôl
yr holl strach o gael mynediad cyrhaeddais y
llwyfan “Folky-Dokey” i glywed dwy
gân olaf Brigyn. Siom i mi golli’r
set ond pleser o weld y lle yn orlawn.
Fe
amcangyfrifais fod o leiaf mil o bobl yn eistedd
yn y babell yn gwrando ar Brigyn, ella mwy,
ond dwi’n weddol saff fod dros fil yno!
Unwaith eto mae rhywun yn gorfod wynebu’r
ffaith na fyddai hyn byth yn digwydd yn y sîn
Gymraeg. Digon anodd cael mil o bobl hyd yn
oed i wylio Bryn Fôn dyddiau yma, ac amhosib
cael mil o Gymry Cymraeg yn gwrando ar yr un
pryd. Fel sydd yn cael ei brofi gan Sesiwn Fawr
yn flynyddol, ella fod na “filoedd”
yno ond mae’r miloedd yn y bar neu’r
tafarndai – dydi’r miloedd ddim
yn gwylio nac yn gwrando ond drwy niwl alcoholaidd
ar ddiwedd dydd.
Y
Dyn Gwyrdd yw hoff wyl y Guardian, a darllenwyr
y Guardian, felly mae nhw rhy “right-on”
i beidio gwrando.... wel ella ...... ond dydi
hynny ddim yn newid y ffaith fod Brigyn yn canu
o flaen y mil-plus yma yn y Gymraeg. Yr hyn
am trawodd am eu perfformiad oedd pa mor gyfforddus
ar lwyfan oedd Ynyr ac Eurig. Nid yr hogia bach
o Lanrug mo rhain bellach ond perfformwyr profiadol,
aeddfed a chyfforddus o flaen cynulleidfa. Yn
wir mae’n berfformiad hamddenol heb fod
yn ffwrdd a hi. Doedd dim arwydd o gwbl o bryder,
neu gor fwynhau – mae’n berfformiad
graenus, proffesiynol o safon uchel all ddal
ei dir ar unrhyw lwyfan yn y byd.
Gyda’r
delyn yn amlwg, mae’n rhoi blas Gymreig
i’r holl beth a does ru’n o ddarllenwyr
y Guardian yn poeni eu bod yn “singing
in Welsh”. Dyma y bu nifer ohonom yn frwydro
amdano am mor hir – yr iaith Gymraeg yn
digwydd yn naturiol yn ardal Crickhowell –
buddugoliaeth ddiwylliannol! A dyna ni Brigyn
drosodd a finnau yn teimlo’n euog na roddais
chwarae teg i’r CD yna. Fe wrandewais
wedyn ar ôl cyrraedd adre.
Rhywsut
neu’i gilydd gyda ‘Brigyn 3’
mae’r brodyr gwallt felen wedi llwyddo
i greu CD hen ffasiwn sydd yn swnio’n
gyfoes. Dyma naws Ac Eraill a rhai o sêr
yr “Oes Aur” yna cyn ddyfodiad S4C
ac arallgyfeirio swyddi. Y gwahaniaeth ydi fod
cynhyrchu a safon ‘Brigyn 3’ yn
ddeng gwaith gwell na unrhywbeth grewyd yn y
70au, ac ella fe ddylai fo fod o ystyried y
dechnoleg sydd fel mêl ar flaen bysedd
creadigol Brigyn ond dwi’n gweld Brigyn
3 yn rhan o’r un traddodiad, y peth Cymraeg
Cymreig gwledig yna. Er unrhyw electroneg does
dim cyffyrddiadau dinesig yma o gwbl. Dyma sain
y lechen las ac Eryri ond wedi ei becynu ar
gyfer farchnad ehangach.
Methais
Cate Le Bon, gwelais 9 Bach, fe es adre cyn
y Super Furrys ond beth bynnag ddywedith rhywyn
am yl y Dyn Gwyrdd roedd na ddigon o Gymraeg
a Chymreig yna i roi blas bach o Gymru i ddarllenwyr
y Guardian. Yn od iawn, ac yn anarferol y dyddiau
yma, fe ofynnodd sawl un pa iaith ro’n
yn siarad yn ystod y dydd. Ehhhhh? Da ni yng
Nghymru’r twit bach dwl o ddarllenwr y
Guardian .... un boi o Fryste .... a finnau
yn ateb...” os ti o Fryste mae’n
rhaid dy fod wedi clywed dipyn o Gymraeg o’r
blaen!”. Chwerthodd Bristol boy. Gwenais.
Does
dim o’i le a Brigyn 3. Dydi’r caneuon
ddim mor amlwg yn hits radio efallai o’u
cymharu a dyweder “Bohemia Bach”.
Ond wedyn ella dyna’r broblem hefyd hefo
Brigyn 3, doedd dim o’i le, mae popeth
yn ei le, yn rhy daclus, yn rhy saff, yn rhy
gyfforddus? Ac eto eu cyfforddusrwydd ar lwyfan
oedd un o’r pethau da am eu perfformiad?
Ella fod clustiau Cymru fach wedi arfer hefo
Brigyn? Ella mae cynulleidfa ehangach yw’r
unig ffordd ymlaen i Brigyn – ella fod
rhaid gadael y wlad er mwyn cael dod yn ôl?
Rhys
Mwyn
Awst
27, 2008
«
nôl i 'adolygiadau'
|