brigyn.com
 
Adolygiad Dulog: Y Selar

O'r trac cyntaf cawn yn union be' 'da ni wedi dod i ddisgwyl gan Brigyn, sef cân dda, geiriau tlws a harmonïau neis. Mae'r traddodiad yma'n parhau yn 'Rhywle mae 'na afon' ac mae symlrwydd y gân yma a'i steil country yn gwneud hon yn un o'n hoff draciau.

Wrth wrando ymhellach mae'r dylanwad Sbaenaidd yn amlygu'i hun, gydag 'Ana' yn rhoi sain hynod draddodiadol i ni, heb sôn am stori wych. Dwi wrth fy modd hefo 'Malacara' sydd yn fy lluchio i ganol ffilm Western ac yn adeiladu'n gyson i gynnal cynnwrf yng nghanol yr albwm.

Fy hoff drac, a'r gân sy'n cynrychioli'r albwm orau i mi ydi 'Fan hyn (Aquí)'. Dyma gân sy'n defnyddio Cymraeg a Sbaeneg, ac er yn gwbl Sbaenaidd ei naws mae'r alaw yn medru swnio mor gynhenid Gymreig ac mae'n enghraifft berffaith o'r cyd-weithio sydd wrth graidd yr albwm.

Mae 'na un neu ddau o draciau sydd ddim cweit yn ffitio efo'r mwyafrif ac ella yn effeithio ar sut dwi'n teimlo amdani hi yn ei chyfanrwydd. Wedi dweud hynny, does 'na'r un gân wael, ac mi fydd albwm diweddara Brigyn yn cymryd ei le yn gyfforddus hefo'r lleill.

Elain Llwyd

 

« nôl i 'adolygiadau'

   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]