Adolygiad
Brigyn Bach: C2 Radio Cymru
Dafydd
Du: I adolygu'r sengl newydd
yma, mae gennym ni Gareth Potter a Esyllt Williams.
Nawn ni gychwyn efo ti Esyllt. Be oedd dy argraffiadau
cynta' di o'r sengl yma, Buta efo'r Maffia gen
Brigyn?
Esyllt
Williams:
Fi'n caru'r trac gynta Buta efo'r Maffia, rili
rili hoffi fe. Y tro gynta nes i glywed e, nath
rhywyn chwarae fe i fi mewn car a gofyn "Pwy
ti'n meddwl yw hwn?" heb ddeud pwy oedd
e - a oni'n rili rili licio fe, a nes i wrando
arno fe syth eto.
DD:
Oedda ti'n ffan o hen stwff Brigyn, achos mae
hwn yn newid cyfeiriad yn dydi?
EW:
Ydi, mae e yn. Na, doeddwn i ddim yn ffan mawr
o stwff mwy acwstic nhw ddim rili - dim bo fi
yn ei gasau e, ond mae rhywbeth sydd yn mynd
yn rhy debyg i 'country' - na, sai'n ffan o
stwff gwerin rili.
DD:
OK. Felly, be amdana ti Gareth?
Gareth
Potter:
Wel, 'nath fy nghalon i kind of mynd yn isel
wrth i mi glywed bo' fi gorfod adolygu Brigyn
... a do ni ddim yn ffan o Epitaff, a nes i
feddwl 'O, Na - Brigyn'. Dwi'n gwybod fod nhw'n
gallu chwarae eu instruments nhw a mae lleisiau
neis gyda nhw, a wedyn es i, OK... a rhoi'r
CD i mew - a mae o'n briliant.
DD:
Waw!
GP:
Hollol Briliant. Mae o'n swnio'n ffresh, yn
wreiddiol. Mae'n swnio - dare I say it - eitha
sexy!
DD:
Mae o yn sexy!
GP:
Mae o'n excellent. Un o'r pethe gorau yn yr
iaith Gymraeg. Mae 'na loads o bethau Cymraeg
briliant wedi dod allan yn ddiweddar, ond mae
hwn reit lan gyda'r gorau - mae'n excellent.
DD:
Dwi'n trio meddwl lle maen nhw'n mynd efo fo.
GP:
Ma' nhw'n mynd i lefydd da - a dylia nhw aros
yna.
DD:
Tiriogaeth Sibrydion bron iawn?
GP:
Wel, ie - oherwydd mae nhw'n cymysgu harmoniau
Beach Boys-aidd neu Super Furry-aidd gyda gitars
a pethau electronic, felly mae'n ddigon hawdd
cymharu nhw i Sibrydion, ond dy' nhw ddim -
mae nhw actually'n swnio fel neb arall - a dwi'n
licio hynny. Mae'n wreiddiol, a dwi'n meddwl
fod o'n superb.
EW:
Dwi'n cytuno'n llwyr.
GP:
Dwi'n excited iawn am hwn.
DD:
Fel un sy'n gweithio i label recordiau Esyllt,
sut mae safon y cynhyrchu ar y sengl yma?
EW:
Mae'n wych. Mae'n rili wych... Mae'n
swnio'n dda iawn.
DD:
Be amdana ti Gareth. Ti'n hapus efo'r safon
yma?
GP:
'Weda i be sy'n dda am hwn - mae'n sengl - a
dwi'n ffan o senglau. Mae'n ffordd rili gret
o brofi band, achos mae albyms weithiau, yn
enwedig gan bandiau newydd yn gallu bod yn hirwyntog.
EW:
Mae'n anodd i bandiau ysgrifennu albym i gyd,
a mae sengl yn gallu bod yn rhwyddach, ac yn
well i nhw.
DD:
Gyda sengl, da ni'n disgwyl cân gyntaf
gryf, a wedyn efallai cyfle i arbrofi ychydig
bach efo'r ddau drac arall. Ydi'r ddau drac
arall yn ychwannegu at y sengl yma Esyllt?
EW:
Mae'r ddau drac arall yn debyg i' stwff mae
nhw'n neud fel arfer, so mae nhw'n wahanol iawn
dwi'n credu, a mae 'na wahaniaeth mawr - a ti'n
gallu gweld ma' nhw yw'r B-Sides.
GP:
Mae 'Jericho' yn alright, ond dw ddim yn rhy
fussed efo 'Ty Bach Twt' i fod yn onest - ond
dwi ddim isio bod yn negyddol, achos mae 'Buta
Efo'r Maffia' yn superb.
DD:
Mae o yn yndydi
GP:
Un o tracs y flwyddyn - definetely yn y top
five.
DD:
Mi wnaeth Ynyr siarad efo Lisa Gwilym yn ddiweddar,
ac odd hi'n holi be oedd y syniadaeth tu ôl
i'r trac, a doedd o ddim isio dweud gormod,
ond, mi oedd o wedi bod yn Llundain yn helpu
cyfaill iddo sydd hefyd yn gerddor a oedd yn
canu mewn rhyw fath o glwb - a mi oedd y clwb
'ma efo awyrgylch arbennig iawn, lle oedd pobl
Maffiosaidd yn ymgynull, a pawb yn edrych ar
ôl eu gilydd - ac o fan'ma mae'r gân
wedi dod felly
GP:
Fel bar canol Clwb Ifor!
DD:
Reit, wnai ddim gofyn pa un ydi'ch hoff drac
chi oddi ar y sengl, achos dwi'n meddwl fod
pawb yn gwbod be fyddai'r ateb, ond, be am farciau
allan o 10 i Brigyn ar gyfer y cyfeiriad ychydig
yn wahanol 'ma?
EW:
Naw
DD:
A Gareth?
GP:
Wyth a hanner, ond verging ar 9. Mae'n grêt
- a dwi ddim yn or-hael fel arfer, felly mae
8 a hanner yn hael iawn gen i.
DD:
Gwych. Dwi mor falch bo' chi wedi cael eich
plesio.
GP:
Ia, dwi ddim wedi bod yn ffan ohonyn nhw o'r
blaen, ond dwi wedi gweld y golau.
EW:
Mae e jysd mor mor neis gweld stwff rili gwahanol
yn cael ei wneud yn y Gymraeg. Mae e'n wahanol
iawn, ac yn wych.
DD:
Ac yn hollol gyfoes wrth gwrs. Diolch unwaith
eto i chi Gareth ac Esyllt am eich cwmni heno.
«
nôl i 'adolygiadau'
|