brigyn.com
 
Adolygiad Brigyn 4: Yr Herald Cymraeg

Albym arbennig i ddathlu degawd o dyfu

Mae Brigyn – y ddeuawd a ffurfiwyd gan y ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts fel cangen o’r grŵp pop Epitaff yn dathlu eu pen-blwydd yn 10 oed y mis yma.

Ac i wneud y dathliad yn gyflawn mae’r hogiau, sy’n hanu o Benisarwaun yn wreiddiol, wedi rhyddhau eu pedwaredd CD.

I’r sawl sydd heb glywed Brigyn o’r blaen, maen nhw’n weddol anodd i’w gosod mewn unrhyw gategori bendant. Mae’n rhaid defnyddio brawddeg aml-gymalog megis: cerddoriaeth werinol, acwstig, annibynnol, arbrofol gydag elfennau o electronica i ddod yn agos at eu disgrifio.

Maen nhw adnabyddus hefyd am gyfansoddi caneuon cofiadwy, gydag alawon hudolus, a llais hyfryd Ynyr yn eu perfformio’n wych.

Mae’r bedwaredd albym – Brigyn 4 – yn dilyn yr un math o batrwm.

Mae ’na nifer o ganeuon cryf, gyda melodiau hyfryd ar hon hefyd. Ond nodwedd amlyca’r CD yw bod eu cerddoriaeth wedi aeddfedu.

Dwi ddim yn siwr sut mae’r bartneriaeth yn gweithio o ran sgwennu’r caneuon, ond mae’n rhaid canmol y geiriau hefyd. Safon geiriau eu caneuon ydi gwendid sawl grŵp Cymraeg da. Geiriau di-ddychymyg neu’n waeth byth, geiriau diystyr wedi eu taflu at ei gilydd jest er mwyn ffitio’r gerddoriaeth.

Mae caneuon Brigyn yn ganeuon cyflawn.

Mae 11 trac ar y CD – naw cân a dau ddarn offerynnol, ac mae’n rhaid dweud i mi gael blas ar y casgliad yn syth, yn arbennig felly y ddwy gân agoriadol, a’r gân olaf.

Mae nifer o offerynwyr gwadd megis Georgia Ruth Williams, Mei Gwynedd, Osian Williams ac Angharad Jenkins yn chwarae ar yr albym hefyd, sy’n ychwanegu at y profiad.

Mewn gair – rhagorol.

Tudur Huws Jones

 

« nôl i 'adolygiadau'

   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]