brigyn.com
 
Adolygiad Brigyn 4: ffrwti.com

Rhyddhau Brigyn 4 yn ddigidol

Does dim amheuaeth bod Brigyn bellach yn gangen gadarn ar goeden y sîn roc Gymraeg. Ymestyn eu gyrfa dros ddeng mlynedd ac mae wedi'i gwreiddio yn nwfn yn ein rhandir cerddoriaeth bach ni.

Yn ôl ar derfyn mis Tachwedd 2014 rhyddhaodd y ddeuawd Brigyn 4 - eu record hir wreiddiol gyntaf ers chwe mlynedd. Daeth dydd ei rhyddhau yng nghanol chwydd y cryno ddisgiau newydd cyn y Nadolig. O Candelas i First Aid Kit, roedd gen i tua phump albwm newydd yn sgrechian "gwranda arnaf i!" ac roedd Brigyn 4 yn eu plith. Y mis hwn mae Brigyn yn rhyddhau'r albwm yn ddigidol, felly pa well adeg i mi rannu gyda chi ddarllenwyr ffyddlon Ffrwti fy meddyliau am y cyfanwaith hwn?

Dw i'n credu i mi ddweud ar sawl achlysur cymaint dw i'n dotio ar lais Ynyr Roberts, felly gallwch ddychmygu fy syndod pan glywais gân gyntaf yr albwm - "Ara deg" - gyda pherson arall yn canu. Roedd yn llais tebyg i un Ynyr, ond nid un Ynyr oedd o ond Eurig - y brawd arall. Dechrau annisgwyl felly, a phethau'n argoeli'n dda am y 36 munud oedd yn weddill.

Mae "Fflam" yn diffinio Brigyn i'r dim yn fy marn i. Byddai'r gân hon yn ffitio'n daclus ar unrhyw un o albymau Brigyn. Credaf fod traddodiad gwerin (a gwaddol WOMEX?) wedi dylanwadu ar yr ail drac - "Deffro" - gan felly newid trywydd yr hyn 'roeddwn i wedi'i ddisgwyl nesaf - sef rhywbeth mwy Brigynaidd. Parha hyn ar y trac nesaf, sef "Gwyn dy fyd" sydd â naws hwiangerdd iddi. (Meddyliwch cael eich suo i gysgu gan y llais melfedaidd 'na!) Pan wrandawais i ar "Tlws" am y tro cyntaf, teimlais fel ei bod yn gân a allasai fod wedi cael ei rhyddhau yn ôl yn y 70au yn hey-day Hergest a Delwyn Siôn. Mae o'n rhywbeth i wneud efo rhythm y gitâr, neu'r harmoni, neu'r lleisiau cefndirol. Neu rhywbeth. Fedra i ddim rhoi fy mys arno.

Wrth wrando ar agoriad "Pentre Sydyn", roeddwn i'n disgwyl rhywbeth tebyg i "Deffro", ond unwaith mae'r canu'n dechrau (yn enwedig yn y gytgan) rydyn ni'n ôl at yr hyn y buaswn i'n ei alw'n classic Brigyn.

Doeddwn i ddim yn siŵr ar beth 'roeddwn i'n gwrando pan glywais "Eryri" am y tro cyntaf. Trac offerynnol ydy hi sydd - yn hanner cyntaf y trac, i ryw raddau - yn cyfleu'r moelni maith hwnnw y soniodd T.H. Parry Williams amdano yn ei soned. Tua munud a deg eiliad i mewn i'r trac byr, (yn enwedig os rydych yn gwrando ar glustffonau) dychmygais y trac yn cael ei ddefnyddio ar ffeinal Strictly Come Dancing mewn dawns ddramatig a rhywiol. Sut dw i'n mynd o T.H. i Strictly - wn i ddim. Croeso i fy meddwl. ;-)

"Ffilm". Eto, mae'r gân hon yn sgrechian Brigyn. O bosibl, hon yw'r un sy'n aros yn y cof - y mwyaf catchy os hoffech chi. Wedi dweud hynny, erbyn y diwedd mae'n mynd yn undonnog iawn a theimlaf y gallai hi fod gytgan neu ddwy'n fyrrach. Ydw i wedi sôn bod gen i thing am lais Ynyr? Wel, mae "Weithiau" yn llwyfan i dôn ei lais ar ei gorau. Mae "Machlud" yn drac offerynnol arall. Mae'n fyr, ond yn swynol. Byddai'n gweithio'n wych mewn montage ar ddiwedd cyfres deledu Americanaidd. Ydych chi'n gwrando, Netflix?!

A dyma ni wedi cyrraedd trac "olaf" yr albwm - "Gwallt y Forwyn". Cyfrannodd Georgia Ruth ei llais hyfryd hithau at y gân hon. Mae priodas lleisiau'r ddau yn fendigedig ar gân dw i'n ei hoffi ond byth yn gallu ei chofio. Mae ôl gwaith caled ar yr albwm yn y ffaith bod gwrando arno'n ddi-ymdrech, bron. Petawn i'n gorfod gweld beiau - hyd "Ffilm" a dim solo gan Georgia Ruth ydy'r unig rai sydd gen i. Ond pigo ar fân bethau ydw i yma. Mewn sîn sy'n gweld bandiau'n blaguro a gwywo o flwyddyn i flwyddyn, rwy'n eitha sicr y bydd y Brigyn hwn yn fytholwyrdd.

Bydd Brigyn 4 ar gael yn ddigidol ar 19 Ionawr.

Lois Gwenllian

 

« nôl i 'adolygiadau'

   
 
  [brigyn.com ~ cynlluniwyd gan: eurigroberts.com | rarebit © 2014]