Adolygiad Brigyn 3: Y Selar

BRIGYN
BRIGYN 3
GWYNFRYN CYMUNEDOL

Mae rhai yn eu galw’n Proclaimers Cymru. Mae Brigyn yn frodyr hefyd gwelwch. Mae’r rhai yna yn ffyliaid diglem, dibwrpas, a heb eithriad yn gwmni diflas. Oherwydd nid pedlars tri chord mo Brigyn o bell ffordd, ac yma daw albwm o safon, eu 3ydd fe synnwch wrth y teitl, i ramio’r pwynt am 500 milltir a 500 milltir arall heb ddisgyn wrth ryw fflipin drws.
Mae’n gryf drwyddo, yn llawn awyrgylch dwys-hamddenol os di hynny’n gyfuniad o unrhyw synnwyr. A mae’r hyn sy’n amlwg ers hydoedd yn amlygu ei hun yn finiog yma, sef fod Ynyr ymysg y lleiswyr gorau o gwmpas. Ei gysondeb drwy’r ystod o ganeuon yma’n ei wneud, ar ben strwythurau hyfryd fel sydd ar Fyswn i ... fysa ti?, Wedi’r Cyfan a Seren, yn gwneud yr holl albwm yn brofiad pleserus tu hwnt. Does na’m pwynt gwan a dweud y gwir. Ella fod y delyn ar Subbuteo yn ddiangen, ychydig yn annifyr hyd yn oed, ond pigo beiau pedantig yw hynny a chwilio am drwbwl lle does dim. Brigyn 3 yw eu pinacl hyd yn hyn, ond ar y dystiolaeth yma dylai fod mwy i ddod. ‘Dyw’r rhain ddim yn swnio fel bod eu creu ar derfyn, a bydd Brigyn 4 werth ei glywed, saff.

****
Hefin Jones

 

« nôl i 'adolygiadau'