Adolygiad
Brigyn 2: Eco'r Wyddfa
O
gychwyn y gân gynta ar yr albym newydd
ma’ ‘na deimlad o greu disgwyliad.
Alaw leddf ryfedd gan weu offeryne ar ben ‘i
gilydd un ar ôl un. Teimlad glân
heb unrhyw rwysg sydd gan y caneuon newydd i
gyd. Caneuon offerynnol a chaneuon wedi eu cynhyrchu
a’u gosod yn gynnil. Does dim syndod ‘u
bod nhw’n boblogaidd. Tybed sut y bydd
y cefnogwyr ffyddlon yn teimlo am y swn sydd
ychydig yn newydd? Wel, dechre da, achos ma’r
clawr yn ffab.
Mae ‘Diwrnod Farchnad’ yn rw fath
o anthem y gall pobl sy’n gweithio mewn
marchnadoedd yng Nghymru fabwysiadu! Ac er gwaetha’r
ffaith nad ydw i’n gweithio mewn marchnad,
ma’r gân yn sownd yn fy mhen. Er
nad ydw i bob tro am ei chlywed hi yn fy mhen…
Mae’r
alawon cefndir, y cyfalawon a’r gwau i
gyd yn ddestlus ac yn llwyddo i reoli dy fwd
di. Yn dy dynnu di o’r byd gwallgo a llais
Ynnyr yn dy suo i fyd y ddau frigyn o Lanrug.
Weithiau, mae’n anodd gwybod os yw’r
albym yn ceisio bod yn gasgliad o ganeuon ynteu’n
ymgais i fod yn fwy fel royksopp a’u tebyg.
Efallai mai’r hyn sy’n gweithio
yw’r ffaith fod y bois yn defnyddio’r
dull hyn o greu cerddoriaeth ond yn dal yn driw
i’w alawon a’u caneuon.
Hits
yr albym heb os yw ‘Y Sgwâr’,
‘Diwrnod Marchnad’ a ‘Darn
o’r un Brethyn’ ond i fi, ma’
‘Hwyl fawr, ffarwel’ gyda deuawd
Ynnyr a Fflur Dafydd yn ddarn lysh o gerddoriaeth
gynnil a meddal fel cot cwningen. Ma’
‘na ryw adlais o ganeuon tawel Meic Stevens
a Heather Jones yn ‘Hwyl fawr, ffarwel.’
Ac mae ‘Imago’ hefyd yn cydio, er
nad yw cyn gryfed ar gychwyn y gân ac
er iddo hefyd orffen fel cân sioe gerdd.
Mae
‘Darn o’r un brethyn’ yn driw
i’r gân a’r geiriau gyda riff
y gitâr yn ail-ware dro ar ôl tro.
Ond diawl, ma’ na rywbeth yffachol o angerddol
a waw ynglyn â’r gân. Mae’r
adeiladweth offerynnol yn helpu a ma’
pawb sy’n profi’r teimlad o ‘unrequited
lyf’ ar hyn o bryd yn mynd i lico’r
gân hyn a’i lico hi lot! Ac yn fwy
na hyn, ma’ llais Ynyr yn ffitio i’r
dim da’r gân.
Beth
sy’n ddiddorol am ddatblygiad Brigyn yw
ei fod e’n ddatblygiad hylifol. Dydyn
nhw’n amlwg ddim yn hoffi sticio at un
math o gerddoriaeth yn rhy hir. Mae esblygu
a datblygu syniadau yn rhan greiddiol o’u
bodolaeth nhw ac mae hynny’n hwyl i wrando
arno. Ar ben hyn, mae rhai darnau cerddoriaeth
sydd wedi eu creu (er enghraifft ar gychwyn
Bysedd drwy dy wallt) yn ddarn o siocled i’r
glust. Wrth gwrs, mae perygl cwympo i drap a
chael dy reoli gan opsiynau cerddoriaeth technolegol
sy’n cael ei greu ar gyfrifiadur. Mae
Brigyn wedi llwyddo ei ddefnyddio’n dda
ond mae’n gyffrous meddwl pa arbrofi arall
gallan nhw wneud mewn albyms yn y dyfodol.
Mae’n
anhebygol y byddai unrhyw frigyn arall yn gallu
creu swn mor soniarus. Ma’ nw fel arfer
yn frown, yn gam ac yn go dawel ond ma’r
Brigyn arbennig hyn wedi creu albym arbrofol
ond gofalus. Nawr, faint o frigau all ddweud
eu bod nhw wedi gwneud hynny?
Catrin
Dafydd
«
nôl i 'adolygiadau'
|