Adolygiad
Brigyn 2: C2
Yn
ymuno a Huw Stephens y noson honno oedd Steffan
Cravos a Marc Real.
HS:
Felly, Marc, efo pob parch at dy dast gerddorol
di, oni ddim yn disgwl gweld aelod o Ashokan
yn mwynhau albym gen Brigyn. Ond mi nes di...
MR:
Do, do. Ges i sioc fach i fod yn onest. 'Di
e ddim yn fath o gerddoriaeth y byswn i'n disgwyl
ei fwynhau, ond natho ni wrando arna fe, a ma
na lot o bethe da ynddo fe ... ac ar ol gweld
nw yn fyw, odd hwn lot, lot, lot yn well, achos
oni'n disgwyl rywbeth yn debyg i be ma nw'n
neud yn fyw. Ond ma gen nw lot o bethe sydd
gena nw ddim yn y gigs byw, so ges i fy mhlesio
i fod yn onest.
HS:
Pan mae nhw'n fyw, mae nhw yn dueddol i fod
yn acwstic yn dydi - heb y 'beats' a'r curiade
caled 'na, felly, mae'n amlwg fo nw wedi cael
hwyl yn y stiwdio. Ti di gweld nw yn chware
yn fyw o gwbwl Steffan?
SC:
Na, dwi ddim actually, na.
HS:
Dwim yn meddwl bo fi wedi i fod yn onest. Ond
mae'r albym yma - fyse ti yn cytuno â
fi fod y cynhyrchu yn dda dros ben?
SC:
Mae'r cynhyrchu yn dda iawn. Mae'r sain yn glir.
Be ma nhw'n neud yw cerddoriaeth draddodiadol
mewn ffordd, ond fo' 'na haen electroneg ar
ei ben e. Ond o ran y cynhyrchu, yn sicr, mae
e yn safonol.
HS:
Achos gall y caneuon fod yn rhei eitha 'Boombastic',
a 'Stadium Rock' i ryw radde, yn galle', ond
dydi nw ddim - gan eu bod nw'n dod a elfennau
o sdwff mwy modern i fewn - y curiade 'na, ac
yn ychwannegu. Wyt ti'n meddwl fod o'n gweithio
yn dda Marc - y lleisie hyfryd ma, yn canu'r
geirie hyfryd ma, gyda 'beats'?
MR:
Ie, mae e'n dod drosodd yn eitha da. Ma fe'n
swnio'n debyg i fi fel David Gray o ran y llais.
Mae'r gerddoriaeth - mae na elfen glasurol,
traddodiadol, a gyda'r elfen electronica ma,
mae e'n gyfoes - sy'n gweithio, a mae e'n dda.
HS:
Achos mae'r ddau frawd, mae nw dal hefyd yn
y grwp Epitaff sy'n dal i fodoli - a ma nw yn
neud sdwff mwy traddodiadol. Felly, sgen ti
uchafbwyntiau oddi ar yr albym ma Steffan, o
ran traciau sy'n sefyll allan?
SC:
Dwi di colli'r CD, ond dwi'n eitha licio'r 'inserts'
rhwng y tracie, lle mae gen nhw ddarnau byr
llai na 30 eiliad rhwng y caneuon, a mae nhw'n
eitha neis i'w clywed ar albyms cymraeg.
HS:
Mae'n helpu'r albym lifo yn dydi, o drac i drac?
SC:
Ydi. Dwi'n meddwl fod o eitha traddodiadol dal
o ran be ma nw'n trio ei wneud, a dio ddim fel
tase fe'n trio torri tir newydd. Dyw e ddim
yn rywbeth dwi wedi ei glywed o'r blaen, ond
eto i gyd, mae o'n wrandawiad eitha pleserus.
HS:
Mae nhw'n neud be mae nhw'n neud yn dda iawn.
SC:
Yndyn.
HS:
Mae e'n fath o albym sy'n tynnu chi mewn yn
tydi. Ti'n dechre, a ti'n meddwl 'Reit', - dwi'n
siarad yn bersonol yn fan hyn - 'Dwi ddim yn
teimlo'n gyffyrddus efo hyn' ... A mae'r run
peth am yr albym cynta hefyd, sy'n tynnu chi
fewn yn ara' deg, ara' deg... ac erbyn i chi
... erbyn i'r albym orffen, mi fydde chi wedi
mwynhau gwrando ar yr holl beth.
MR:
Yn hollol. Ges i'n siomi ar yr ochr ora. Mae
e'n dechre off, ac oni'n disgwl rhywbeth 'drab',
araf, jyst acwstic arferol. Ond na, ma fe'n
rywbeth pleserus i'w wrando arno. Nes i olchi'r
llestri un diwrnod a gwrando arno fe.
HS:
Wel, dyne ni! Bydd hune ar posters albym nesa
Brigyn yn bydd! - 'Fuodd Marc Real yn golchi
llestri i'r albym ddwytha'!
MR:
Oni'n meddwl fyse teitl mwy gwreiddiol ar gyfer
yr albym wedi bod yn well!!! Rhyw fath o ddwyn
wedi mynd ymlaen yn fane!
SC:
Pot Black!
HS:
Mi nath rywun bwyntio hune allan i fi diwrnod
o'r blaen - Ail albym Ashokan : Ashokan2, ac
enw ail albym Brigyn oedd Brigyn2. Ti'n meddwl
mae Brigyn3 fydd yr un nesa... ac Ashokan3 hefyd?
MR:
Na - ni am ddilyn y ffordd fel Naked Gun - '2
and a half' sy nesa.
HS:
Ok. Gobeithio fod Brigyn ddim yn gwrando, achos
bosib dyna be fydde nw yn galw yr albym nesa
hefyd! Felly, Steff, sy feddylie di i gloi ar
yr albym 'ma gen Brigyn. I bwy fyse ti'n argymell
yr albym yma?
SC:
I pwy?
HS:
Ie, pa fath o ... Lle fyse ti'n gosod yr albym
yma?... Achos dwi'n teimlo ei fod o'n albym
anodd i'w osod - Dyw e ddim yn draddodiadol,
dyw e ddim yn ganol y ffordd, a fel ti'n deud
dyw e ddim yn torri tir newydd chwaith.
SC:
Dyw e ddim yn 'cuttin edge' o bell ffordd, ond
mae e'n albym bleserus iawn i wrando arno, sy'n
mynd i apelio at trwch o boblogaeth. Mae o'n
rywbeth hawdd i wrando arno fo.
HS:
OK. Marciau allan o ddeg ar gyfer Brigyn2?
SC:
Chwech.
MR:
Fyswn i'n rhoi chwech hefyd. Gwaith da fechgyn!
HS:
Gwych. Disgwyl ymlaen i weld y quote yna ar
y poster nawr!
Marciau:
Steffan Cravos: 6/10
Marc Real: 6/10
«
nôl i 'adolygiadau'
|