Adolygiad Brigyn: Sound Nation

Mae dwy album wedi eu rhyddhau yn ddiweddar sydd yn dod yn agosach at greu naws Gymreig o fewn y gerddoriaeth. Fel rwyf wedi son yn y golofn sawl gwaith o'r blaen credaf fod hyn yn creu fwy o bosibiliadau yn sicr o ran allforio'r gerddoriaeth.

Mae'n rhaid dod yn ol at un cwestiwn bob tro – pwy sydd angen clywed efelychiad ail law o'r super furry's neu yn waeth byth fersiwn Gymraeg o Coldplay neu Green Day a'r ateb wrthgwrs yw neb heblaw ychydig o bobl lawr y pub.

Felly beth mae Brigyn yn ei gynnig ar eu "debut album"? - wel am un peth naid anferthol ymlaen o ganeuon gymharol anaeddfed Epitaff ac o bosib un o'r albyms gorau i'w ryddhau yn yr Iaith Gymraeg. Fel cyfanwaith mae'r albym yn amlwg am ei gysondeb a mae'r acwstic/electronica yn gweddu i'r geiriau breuddwydiol. Dyma'r tro cyntaf ers Hen Wlad Fy Mamau i'r delyn gael ei briodle mewn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes.

 

« nôl i 'adolygiadau'