Adolygiad Brigyn: Yr Herald

Casgliad difyr er gwaetha'r ofnau am y gair 'electroneg'. Wrth wrando ar y gân gyntaf ar CD newydd Brigyn, fy ymateb oedd 'O, na!"

Ond wnaeth y siom ddim para'n hir. Tua 10 eiliad a bod yn fanwl gywir, oherwydd dyna hyd y gân, os cân hefyd. Byddai "swn rhyfedd, sy'n golygu fawr ddim i neb" yn nes ati, mi fentraf.

Mae'n gas gen i'r synau electroneg 'ma sy'n honni bod yn gerddoriaeth. A doeddwn i ddim yn rhy ffyddiog am weddill y CD hon, ar ôl darllen y datganiad oedd gyda hi.

"Symudiad newydd y brodyr Ynyr ac Eurig or grwp Epitaff... blas gwahannol... cymysgedd o ganeuon electroneg ac acwstic..."

Ac yna, mae Ynyr yn sôn am y broses recordio lle mae o wedi defyddio'i gitar "i wneud swn yn hytrach nag offeryn i gynnal cân." Ar ben hynny, recordiwyd nifer or traciau ar gyfrifiadur yn eu cartref.

"O na, mae'n mynd i fod yn llawn synau od, a 'cherddoriaeth arbrofol meddyliais.' Ond wedi'r agoriad, fe wellhaodd pethau yn sylweddol iawn hefyd.

Mae'r ail gân Os na wnei di adael nawr yn grêt. A peidiwch â phoeni'n ormodol am y gair electroneg 'na, os ydych chi fel finna ddim yn or-hoff or fath beth. Oherwydd dydio ddim mor ddrwg a hynny. Nid cerddoriaeth electroneg yn yr ystyr 'draddodiadol' mohono o bell fordd. Nid synnau aflafar, od, ond yn hytrach cefndir a chyffyrddiadau cynnil sy'n ychwanegu at y caneuon yn amach na pheidio. Iawn, mae na un neu ddwy yn swnio ychydig yn yn ganol-y-ffordd.

I grynhoi, credaf fod Brigyn yn llwyddo fel cyfanwaith. Mae 'na ambell i gân dda iawn, ac mae'r traciau offerynnol yn gret. Aeddfed a chreadigol.
Oce, mae 'na un neu ddwy o ganeuon sy'n ymylu ar fod yn ganol-y-ffordd, ond fel mae'r hogiau yn eu disgrifio - caneuon hawdd ar y glust ydyn nhw, a beth sydd o'i le ar hynna?

Ar y cyfan casgliad difyr, caneuon da, lleisiau gwych, a darnau offerynnol diddorol, sy'n dangos ochr arall i dalent yr hogiau o Lanrug.

 

« nôl i 'adolygiadau'