Adolygiad
Brigyn: Y Cymro
Casgliad
o ganeuon lleddf sydd â blas gwahanol
i'r hyn yr ydych wedi ei arfer glywed gan y
ddau frawd Ynyr ac Eurig Roberts o'r band Epitaff.
Mae'r gerddoriaeth ei hun yn dra gwahanol i
steil Epitaff, hynny yw mae'n fwy electronig.
Buaswn i'n dweud mai dyma fersiwn electronig
o'u gwaith blaenorol, gyda'r caneuon dwys arferol
a llais cyfarwydd Ynyr, ond mewn dull electronaidd
wedi ei gyfuno gydag arddull acwstic y llinynau.
Mae'n dechrau gyda thelyn effeithiol ar Os na
wnei di adael nawer, sy'n swnio'n geltaidd iawn.
Dwi'n syrthio i'r trap 'celtaidd' nawr, dim
ond oherwydd fod yna delyn yn y gân.
Ond dwi'n credu mai dyma drac gorau'r casgliad
am ei fod yn swnio'n llai cawslyd na'r gweddill.
Cryfheir y darn gyda llinynnau sy'n cicio i
mewn yn y gytgan.
Yn Bohemia Bach, mae Ynyr yn troi i'r Saesneg
sy'n swnio'n hollol dwp. Pam? A yw'n credu mai
dyma'r ffordd i swnio'n fwy cool? Ond does na'm
pwynt i'r Saesneg o gwbl yma.
Mae'r organ geg yn ychwanegu at Llipryn ond
credaf fod Gyrru drwy y glaw yn ddiflas iawn,
oherwydd faint o weithiau mae artistiaid wedi
canu am yrru drwy'r glaw o'r blaen. (signal
gwan y radio... geiriau ofnadwy o ddiddychymyg).
Ceir synth gwan ar drac naw, gyda'r cynhyrchu
ddim yn rhy ddrwg ond yn henffasiwn a phiano
plasdig braidd. Ceir ffidlau yn Disgyn wrth
dy draed a Lleisiau yn y gwynt sy'n dderbyniol
iawn i'r glust.
Cerddoriaeth hawdd i'r glust, yn fras ydi'r
casgliad hwn.
Dyma'r gorau hyd yn hyn o stabl Gwynfryn, ond
unwaith eto, dwi'n eithaf beirniadol o gynhyrchu
Bob Galvin. Mae'n amlwg mai ef yw'r ysbrydoliaeth
yn stiwdio Gwynfryn ac yn cael ei ond. Credaf
fod ei ddylanwadau cynhyrchiol ef yn damnio
artistiaid sydd â'r talent.
Deian
ap Rhisiart
«
nôl i 'adolygiadau'
|
|