Adolygiad Brigyn: C2 Radio Cymru

Yn ymuno a Huw Stephens y noson honno oedd Les Morrison a Guto Brychan

HS: Les, nai droi ata ti yn gyntaf, nes di fwynhau gwrando ar albym Brigyn?

LM: Do, nes i a dweud y gwir, da ni newydd glwad y gân (diwedd y dydd, diwedd y byd) yn fana a dwi wrth fy modd efo string sections, mae na rhywbeth fath o wyddelyg amdano. Pan mae'r strings yn dod i mewn tuag at y diwedd. Dwi'm yn meddwl mai hona ydi'r gân orau ar y CD, er bod fi wrth fy modd efo bob dim sydd arno fo - gan ei fod o'n wahanol, mae nhw yn blendio pethau electroneg efo acwstic yn dda.

HS: Ia, ac mae'n swnio fel ei fod wedi gweithio hefyd. Alle nhw wedi trio cyfuno hyn i gyd ac alle fo wedi gallu swnio yn messy.

LM: Yn hollol. Y peth ydy mae nhw wedi blendio petha yn dda ac y peth amdano - yw fy mod i wrth fy modd gyda'r strings.

HS:
Ia, mae'n swnio fel eu bod wedi defnyddio strings go iawn hefyd - a dim just keyboards.

LM:
Yndi mae o'n swnio'n dda ac yn enwedig yr ail gân sy'n swnio'n wyddelig - yr un gyda'r telyn.

HS:
Os na wnei di adael nawr...
Felly Guto, wyt ti'n cytuno eu bod wedi llwyddo i gyfuno lot o steils gwahanol o gerddoriaeth?

GB:
Yyy Na. Dwi'n cael trafferth gwrando ar albyms fel hyn, ond dwi wedi bod yn gwrando'n eiddgar er mwyn cael rhywbeth i ddweud gan fod o'n fath o gerddoriaeth - pan ti couple o ganeuon i fewn - ti wedi anghofio fod chdi'n gwrando arno fo. Does na'm byd eithafol ynddo fo. Mae o'n gerddoriaeth gefndir neis iawn, ac yn bleserus i wrando arno fo, ond does na'm byd yn dwyn i'r côf.
Wedi dweud hynny, dwi wir yn hoffi y gân olaf, Lleisiau yn y gwynt, ond erbyn ti gyrraedd y pwynt yna, dwi'n ffindio fo'n od fod nhw wedi rhoi y gân yma yn olaf. Efallai fysa fo wedi bod yn well ar ddechrau'r albym - i gadw dy ddiddordeb.
Ond mae'n dibynnu be mae nhw isho allan o'r albym. Dwi'n meddwl mai naws o be mae nhw yn drio ei gyfleu yw dydio ddim i fod yn rhywbeth eithafol, a mae o fod yn rhywbeth mellow, ysgafn sy'n blendio gwahanol elfennau mewn. Mae o i gyd yn gymhedrol ac yn asu oherwydd hynny - ond cerddoriaeth gefndir ydio.

HS:
Dydio ddim yn Punk Rock.

GB:
Dydwi ddim yn meddwl eithafol fel swnllyd, cras neu beth bynnag, mond bod na gerddoriaeth fel hyn lle mae'r hooks a melodies yn dod drwyddo a dy gadw di'n involved - ond dwi'm yn cael y teimlad yna.

HS:
Wyt ti'n meddwl fod o lawr i'r cynhyrchu - os fysa'r cynhyrchu wedi bod yn fwy tynn - fysa fo wedi swnio'n well?

LM:
Wel, dydi hwn ddim yn rwbath fyswn i'n brynu, ond da ni yn gwarando arno fo heno yn meddwl am y bobl sydd yn mynd i'w brynu a cael potel o win a rhywbeth i fwyta, eistedd lawr a cael snog efo fodan trw nos. A mae'r CD yn neud i chdi deimlo fel'na. Does na'm caneuon yn sefyll allan heblaw am Lleisiau yn y gwynt oedd hefyd yn ffefryn i mi.

GB:
Ia, dwi'n cytuno gyda Les yn fana. Coffee table music ydi o. Mae e'n rhywbeth pleserus i gael yn y cefndir efo glass o win, yn enwedig os dwyt ti ddim isho rhywbeth bigo ar dy feddwl di ac i lenwi'r gwagle yn y cefndir. Mae'n addas iawn ar gyfer hynny.

HS:
Mae'n atgoffa fi o fand o Norwy or enw The Notwist. Mae nhw yn swnio'n eitha tebyg in Brigyn ac yn neud yn dda.

Marciau:
Guto Brychan: 5/10
Les Morrison: 7/10

 

« nôl i 'adolygiadau'