Adolygiad 'Ailgylchu': Y Selar

Er na faswn i byth yn amau dawn cerddorol y brodyr Ynyr ac Eurig, doeddwn i byth yn ffan anferth o'u ddau albym cyntaf fel Brigyn. O ran cysyniad, roedd eu caneuon gwerin fodern gyda twist electronaidd yn iawn yn fy meddwl i. Jest, yn ymarferol, roeddwn i eisiau rhywbeth mwy, wel, mwy.

Ac wedyn ddeth yr EP Brigyn Bach heibio gyda'r anghenfil pop rhywiol "Buta Efo'r Maffia" i'm rheibio gyda'i synau tywyll, arallfydol a chemegol. Un o'r senglau mwyaf anisgwyl o wych erioed yn y Gymraeg ac yn sicr un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn dwethaf.

Felly, pan glywais i bod hufen y sin electronica Gymreig wedi bod wrthi'n ail drefnu a chymysgu rhai o draciau'r band ar gyfer albwm newydd i Gwynfryn, rhaid i mi ddweud, fe ogleiswyd fy niddordeb.

Mae Ailgylchu'n cynnwys deunydd gan Brigyn wedi'i (ahem!) ailgylchu gan yr ardderchog Drone (checwch ei albym gwych colourformoney ar y label My Kung Fu), Jakokoyak, Pappy (sengl ar y ffordd gan Ciwdod), Llwybr Llaethog, Evils a Recordiau Safon Uchel, yn ogystal â chwpwl o draciau ganddyn nhw eu hun. Ac os nad yw hynna'n ddigon i gael dy geg i lafoeri - mae'n actiwli'n gweithio. Ar sawl lefel.

Mae'n hongian gyda'i gilydd yn effeithiol tu hwnt fel casgliad o electronica atmosfferig. Jest y peth i whare ar fore dydd Sul neu ryw brynhawn hamddenol. Mae e hefyd yn gweithio fel arddangosfa i ganeuon Brigyn, ac yn sicr mi af yn ôl i ail wrando ar y Brigyn 1 & 2.

Does dim trac gwan fan hyn, ond od oes rhaid i mi ddewis fy ffefrynau, mae gwaith Llwybr Llaethog ar Ofn a Evils ar Wrth i'r Haul Fachlud yn sefyll allan. Yn fyr, mae Ailgylchu yn gasgliad rhagorol. Carwch e!

Gareth Potter

 

« nôl i 'adolygiadau'