Adolygiad
'Ailgychu': Y Cymro
Dwi
ddim efo amser i 'neud hanner y pethau dwi isho
gwneud wythnos yma gan ein bod ni mor brysur
yn ffilmio pethau at fis Tachwedd a Rhagfyr.
Heddiw, yng nghanol y gwres 'ma tu allan (ac
mae hi ddwywaith mor boeth yn y stiwdio!) dyn
ni'n ffilmio rhaglenni sy'n mynd allan yr wythnos
cyn 'Dolig felly, ma'n anodd cael 'ymhen rownd
lle dwi i fod! Ma'r prysurdeb yn golygu nadw
i'n cael amser i wrando ar stwff newydd sy'n
glanio ar fy nesg chwaith. Yn barod yr wythnos
hon ma' cd newydd Brign sef 'Ailgylchu' 'di
cyrraedd a fersiwn derfynol 'Simsalabim' gan
Sibrydion. Ma'r ddwy yn cael eu rhyddhau yn
swyddogol yn y 'Steddfod ac er 'mod i 'di clywed
albwm Sibrydion dipyn yn ystod yr wythnosau
diwetha' ar ffurf 'promo' mae o wastad yn neis
cael y cynnyrch gorffenedig i edrych arno'.
Ma'r albwm yn adeiladu ar steil y band gafodd
ei sefydlu ar yr albwm gynta' 'Jig Cal' gafodd
ei rhyddhau dwy flynedd yn ol gyda chrefft sgwennu
tiwns bachog y Brodyr Gwynedd yn dangos dim
arwyddion eu bod nhw'n rhedeg allan o stem!
Y Brodyr Roberts yw brodyr Brigyn wrth gwrs
ac ma'r brosiect ddiweddara' yn un diddorol.
Prosiect o ail-gymysgidau ydy 'Ailgylchu' ac
wrth edrych ar y tracklisting ma'n edrych fel
rhywbeth fydd yn swnio'n dda yn yr haul yn ystod
yr wythnosau nesa, gyda chyfraniadau gan Jakokoyak,
Evils a Pappy. Dwi wastad 'di meddwl bod gan
Brigyn y potensial i fod yr act electronic cynta'
i wir groesi drosodd i fewn i diriogaeth 'Radio
Cymru Daytime' gan fod ganddyn nhw gymaint o
ganeuon da (eto, dawn ysgrifennu gwych y ddau
frawd) ond dwi hefyd yn falch bod nhw'n cael
eu derbyn, erbyn hyn, gan rai o'r acts mwya'
'difrifol' sydd hefyd yn gwneud cerddoriaeth
electronic yn y Gymraeg. Ma' nhw 'di dod yn
bell ers dyddiau gitar acwstig a'u edrychiad
'rabbits caught in the headlights' Epitaff pan
oedd eu henw yn cael ei ynganu o dan yr un anadl
a Caban, Maharishi a nifer o acts tebyg o stabal
label Gwynfryn. Mewn ffordd ma' na ddeuoliaeth
debyg yma gyda Osh a Mei Gwynedd sy 'di tyfu
fyny yn y sin trwy eu bandiau Beganifs, Big
Leaves a nawr Sibrydion. Caneuon sy 'di cario
nhw drwy'r yrfa hon a chaneuon ydy asgwrn cefn
Brigyn (ac Epitaff gynt). Dwi'n edrych 'mlaen
i glywed sut stad fydd ar eu caneuon ar ol i
ddwylo budr (nid yn llythrennol) Llwybr Llaethog
a'u tebyg gael gafael arnyn nhw. Fel bechgyn
da sy'n ffeindio eu bod nhw'n rebelio pan ma'
nhw'n cyrraedd eu hugeiniau ar ol bihafio'u
hunain drwy'r ysgol, ma'n braf gweld Brigyn
yn bod yn ddrwg!
Ian
Cottrell
«
nôl i 'adolygiadau'
|
|