Adolygiad
'Ailgylchu': Siarc Marw
Dyna
chi beth ryfedd; disgwyliad. O'n i'n arfer cyfri
Brigyn goda 'old faithfuls' yr SRG. Bois lyfli
â chaneuon lyfli - sy' ddim yn feirniadaeth
wael - ond yr hyn sy' gen i sbo, yw 'mod i erioed
wedi disgwyl i Brigyn fy nghyffroi i. Yna, daeth
'Ailgylchu' drwy'r post. Albym newydd llawn
tiwns ffres, gwreiddiol, a hygyrch, a lwyddodd,
ar unwaith, i fy nghyffroi i'n llwyr. Dyna ddweud
wrth ddisgwyliad, te! Ac mae rheswm da i gyffroi,
gyfeillion. Mae gliterati sin electroneg Cymru
ar y CD cyfyngedig yma; Jakokoyak, Llwybr Llaethog,
Recordiau Safon Uchel a mwy. Ac mae eu dehongliadau
o ganeuon Brigyn yn swynol, yn dywyll, ac yn
amthemic yn eu tro. Mae'n wirioneddol anodd
dewis ffefryn ar yr albym yma; mae pob cân,
a'r cyfanwaith, yn gampwaith.
Mair
Angharad Tomos
«
nôl i 'adolygiadau'
|
|