Adolygiad 'Ailgylchu': Golwg

"Brodyr ar y brig gyda'r ail-gylchu..."

Mae'r ddau frawd o Lanrug, Ynyr ac Eurig Roberts, sy'n aelodau o'r band Brigyn yn lawnsio albym i bobol 'wyrdd'. Mae popeth wedi ei ail-gylchu - gan gynnwys y gerddoriaeth!

Yn ôl Eurig Roberts: "Albym o remixes o draciau Brigyn yw Ailgylchu. Mae chwech o artistiaid 'electronica' wedi cyfrannu i'r prosiect, sef Drone, Evils, Jakokoykak, Llwybr Llaethog, Pappy, a Recordiau Safon Uchel. Dim ond 500 o gopiau o'r CD yma fydd yn cael eu cynhyrchu - a bydd pob un wedi ei rhifo yn unigol, ac yn dod mewn pecyn arbennig wedi ei wneud o ddeunydd sydd wedi ei ailgylchu."

Ar ôl penderfynnu ar deitl yr albym, meddai, y peth naturiol wedyn oedd i gydio yn y thema o 'ailgylchu' a'i drosglwyddo i'r gwaith celf hefyd. "Rydan ni'n dau yn ddylunwyr graffeg yn ein amser sbâr, a rydan ni'n teimlo'n gryf fod pecynnu cerddoriaeth yn bwysig iawn - er mwyn i'r person sy'n prynu'r cynnyrch allu gwerthfawrogi'r cyfanwaith yn llawn. Mi oedd hi'n un o'r uchelgeisiau gennym ni ers ffurfio Brigyn nol yn 2004 i wneud albym o 'remixes', ond ddaru ni byth ddychmygu fysa fo'n digwydd!"

Fe wnaeth y prosiect ddechrau ychydig o fisoedd yn ôl ar ol i Llwybr Llaethog ofyn i gael cymysgu rhai o'u caneuon nhw, meddai. "Yn yr un cyfnod, ddaru ni ofyn i Cassidy (o Drone) wneud remix o'r trac 'Llipryn', ac yna, ar ôl i ni gael y traciau yn ôl gen yr artistiaid yma a chlywed safon y remixes - ddaru ni benderfynnu bod rhaid i ni ychwanegu at y casgliad, a'u rhyddhau nhw fel un albym cyflawn."

Os byddai rhaid i Eurig Roberts ddisgrifio'r caneuon, byddai'n sicr yn dyfynnu'r cymeriad ffilm, Forrest Gump, am focs o siocled: "You never know what you're gonna get. Mae yna lot o sypreisus ar yr albym yma, ac yn sicr mae'r traciau sydd ar y CD yn wahanol iawn i'r fersiynau gwreiddiol. Bwriad y CD oedd i greu casgliad eitha amgen / tanddaearol, a mi oedd hi'n fraint mawr i ni i gael yr artistiaid yma i ail-weithio, ac i adael eu stamp ei hunain ar ein caneuon."

Yn ogystal â pherfformio ar y Maes a gyda'r nos yng Nghlwb Rygbi'r Wyddgrug yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mi fydd y ddau frawd hefyd yn cwrdd â hen ffrindiau a mwynhau'r perfformiwyr eraill yn y gigs nos. Un atgof penodol sydd gan Eurig Roberts o Eisteddfodau ei blentyndod, meddai, yw casglu llofnodion yr enwogion Cymraeg ar yr un pryd yn cynnwys Crinc ac Wcw, Syr Wynff a Plwmsan, Jeifin Jenkins a Wali Tomos. Efallai mai stori wahanol fydd hi eleni, ac y byddai'n well i frodyr Brigyn i ymarfer eu llofnodion...

Llinos Dafydd

 

« nôl i 'adolygiadau'