Adolygiad Ailgylchu: C2 Radio Cymru

Yn ymuno â Daf Du y noson honno oedd Deian ap Rhisiart ac Al Trwmp.

DD: Be oedd dy argraff gyffredinol di ar yr albym yma Deian?

DaR: Mae 'na ambell i drac da, ond mae 'na ambell i drac cachu.

DD: Reit

DaR: www... dwe wedi rhegi - dydi rhegi ddim yn fawr iawn nac ydi!?

DD: Wel, paid a gwneud dim byd gwaeth cofia. Felly, be amdana ti Al, dy argraffiadau cyffredinol di?

AT: Pryd ddoth y CD drwy'r post, nes i decide-io, reit - dwi jysd am ei roi o fewn, dwi ddim yn mynd i ddarllen dim byd - a jysd gwrando, a es i dipyn bach yn conffiwsd.

DD: Dydy huna ddim yn cymryd lot nadi?

AT: Na - dydio'm yn anodd rili! Ond, do ni ddim yn siwr iawn os o'n i wedi cael y CD cywir, achos oni'n disgwl 8 can ffresh gen yr hogia - lot o ganu, caneuon newydd - achos dwi yn licio Brigyn, dwi yn. A mi roes i'r CD i mewn, a wedyn ... "O... A'i Brigyn ydi rhein? ... Be sy'n mynd ymlaen?" So wedyn nes i ddarllen y llythyr neis ges i, a wedyn nes i ddod i ddallt mai remixes oedda nhw.

DD: Ia, hynny yw, mae Ynyr ac Eurig wedi gofyn i artistiaid electronica cymru - pobl fel Llwybr Llaethog, Pappy, Jakokoyak, Evils, Drone a Recordiau Safon Uchel i ailgymysgu eu traciau nhw. Felly, ydio'n gweithio?

AT: Dwi'n meddwl fod o'n gweithio os ti'n licio y pethau electronic rili. Os ti ddim yn licio electronica, ac yn ffan o Brigyn - wrach ti fel, "O..." A literally, mae o yn fater o ti'n gwrando arno fo, a ti'n meddwl wrth dy hun, wel, "ai Brigyn sydd wedi gwneud hon?"

DD: Ia, hynny ydi - mae 'na elfennau o electronica i gerddoriaeth Brigyn, ond mae hwn dipyn caletach

DaR: O yndi! Mae o'n hardcore hollol. Ti'n teimlo weithia fod nhw jysd yn ffidlan efo botwms a'r sampler a mynd ymlaen fel mae nhw isio - a fod na ddim math o ddilyniant idda fo.

DD: Does 'na ddim ffocws ella nag oes. Hynny ydi, mae rhywun hefyd yn cael y teimlad mai arbrawf ydi o, achos yn sicr pan wnaeth Brigyn ryddhau eu stwff dwytha, sef Buta Efo'r Maffia - y stwff gorau mae nhw erioed wedi ei wneud yn fy marn i - Ond wedyn efo hwn, mae nhw ond yn gwneud 500 o gopiau - nifer cyfyngedig, ac mae nhw wedi eu rhifo'n unigol â llaw, ac mae o mewn pecyn arbennig - felly rhyw fath o arbrawf ydi o ynde.

AT: Ia. Un peth allwn ni ddeud am yr hogia ydi eu dychymyg nhw - yn enwedig efo cloriau a ryw betha felly. Mae'n obvious fod nhw'n ofnadwy o artistic a mae hyn yn rhywbeth ffresh. Dwi'm yn meddwl fysa 'na lot o bobl eraill wedi decide-io gwneud rhywbeth wedi ei wneud allan o rywbeth wedi ei ailgylchu yn complete - gwneud 500, a dyna ni. Mae 'na lot o ddychymyg idda fo.

DaR: mae o'n dda i Brigyn ei hun, achos mae o'n dangos statws nhw - fod pobl blaenllaw fel Llwybr Llaethog wedi gwneud remix o'u caneuon nhw.

DD: mae'n rhoi hygrydedd iddyn nhw fel band yntydi. Mae LL-LL wedi gwneud cwpl ohonyn nhw, Jakokoyak hefyd. Oes 'na wahaniaeth - hynny ydi, yn dibynnu ar pwy sydd wedi ailgymysgu nhw - oes 'na rhei sy'n well na'i gilydd?

DaR: Oes. Mae'r un Evils 'na yn evil - yn wael. Sori pwy bynnag ydi Evil. Mae o fatha fod rhywun wedi bod yn chwarae efo synth Yamaha, a dal i feddwl yn yr 80au. Dipyn bach o John Grindell gwael fyswn i'n deud.

DD: Efallai mai John Grindell ydi Evils? Mae 'na rhywfath o ... dwi'm yn siwr os oes yna sîn, ond mae 'na sawl artist electroneg wedi dod trwadd wrth feddwl am Jakokoyak, Yucutan a Clinigol sy'n gwneud y math yma o beth felly. Doedd hyn ddim yn digwydd ychydig o flynyddoedd yn ôl yng Nghymru.

AT: Na - mae o yn rywbeth newydd. Mae o'n rywbeth ffresh - ond ella rhywbeth mae rhywun angen dod i arfer mwy i - a'i werthfawrogi.

DD: Ac ella fod angen cynulleidfa. Dydy cynulleidfa Cymru ddim cweit yn barod am y math yma o beth eto.

AT: Fyswn i ddim yn deud bo fi ddim yn licio fo, mae o'n fath o fiwsig fyswn i'n gallu rhoi ymlaen yn y background.

DD: Oes 'na unrhyw gân yn uchafbwynt? Unrhyw un yn sefyll allan i chdi Al?

AT: "Ofn" yn bersonol. Oni'n meddwl fod honna'n drac da iawn.

DaR: Ma honna'n dda - a dwi'n meddwl fod Llwybr Llaethog yn cyfuno mwy 'na Electronica ar honna, ma 'na ddipyn bach o sampls mellt a tharannau a ballu.

DD: Mae o dipyn bach fel Eminem ar y dechrau yndydi - fel 'Stan', efo'r swn go iawn, fel bo ti'n disgwyl i'r glaw ddisgyn.

DaR: Ma hwnna'n cyfuno pob dim felly.

DD: Ond, mae'n wir deud hefyd fod honna'n debyg iawn i'r gân wreiddiol, sydd falle yn dangos pa mor gryf ydi caneuon Brigyn ar ben eu hun - ond pan ma rhywun yn dechrau cymysgu nhw, falle dyda ni ddim yn licio nhw gymaint! A efo rhei ohonyn nhw, 'da chi prin yn gwybod pa gân ydi hi.

DaR: Ailadroddus ydi rhai ohonyn nhw

DD: Wrth wrando, er enghraifft, ar 'Matchstick Man' - da ni'n gwybod mai 'Y Sgwar' ydi hon o'r lyrics, ond heblaw am hynny, dydio ddim yn debyg iawn i'r trac wreiddiol.

AT: Fel, ddaru fi orfod ofyn i chdi cynt, cyn i ni ddod ar yr awyr - Do ni ddim yn siwr pwy oedd yn chwarae be, ac ai cân Jakokoyak wedi ei ficsio gen Brigyn oedd o, 'ta ffordd arall rownd. Oni dipyn bach yn conffiwsd wrach efo un neu ddau o ganeuon, a be oedd yn mynd ymlaen.

DD: Be am farciau allan o ddeg?

DaR: Dwi ddim yn foi electronic, felly geith nhw saethu fi lawr achos bo fi'n hollol anwybodus. Ond ... 4 allan o 10. Ambell i drac da, ond ambell i un uffernol o wael.

DD: OK. Ac eto, mae'n rhaid pwysleisio - os nad wyt ti'n ffan o electronica, efallai dydio ddim yn mynd i apelio.

DaR: Fel ma rhei pobl ddim yn licio Rap, a rhei yn.

DD: Yn union. A be amdana ti Al?

AT: Eto, yr un peth - ti'n gorfod licio electroneg i rhoi marc uffernol o uchel, ond eto, mae 'na ambell i beth yn dod allan o'r albym dwi'n meddwl wrth fy hun - "Neis. Dwi'n licio. Potensial", felly dwi am rhoi 5/10.

 

« nôl i 'adolygiadau'